sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Cymorth a lwfans maethu yng Nghaerffili

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Caerffili yn darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.

Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig
  • tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
  • a llawer mwy o fuddion.

Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.

Foster Wales Caerphilly team working a stand

lwfans gofal maeth

ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn.  Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys

  • faint o blant rydych chi’n eu maethu
  • oedran y plant
  • ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu.

Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.

Ym Maethu Cymru Caerffili, mae’n bwysig i ni fod plant yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.

lwfans plentyn

Yng Nghaerffili, taliad lwfans y plentyn yw £198–£248 yr wythnos, yn dibynnu ar oedran y plentyn. Unig ddiben y taliad hwn yw prynu unrhyw beth sydd ei angen ar y plentyn, fel bwyd, dillad neu nwyddau ymolchi, yn ogystal â thalu biliau cartref ychwanegol.

ffi gofalwr maeth

Mae taliadau ffioedd yn ychwanegol at lwfansau i gydnabod amser, sgiliau a phrofiad gofalwr maeth. Yng Nghaerffili, mae’r elfen ffioedd rhwng £140.76 a £203.44 yn dibynnu ar ba mor hir rydych chi wedi bod yn ofalwr maeth, pa brofiad sydd gennych chi a pha fath o faethu rydych chi’n ei wneud.

taliadau ychwanegol

Yng Nghaerffili, rydyn ni hefyd yn darparu taliad ar gyfer pen-blwydd y plentyn, lwfans Nadolig, hawl gwyliau, taliadau cadw, lwfans dillad cychwynnol, costau teithio a thaliad cymhelliant (recriwtio) – ap Care Friends. Hefyd, rydyn ni’n darparu offer fel dodrefn ystafell wely babi neu blentyn yn ôl yr angen.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.

Foster Wales Caerphilly team photo

tîm maethu lleol

Dydych chi ddim allan yna ar eich pen eich hun.  Mae gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.

Mae cymorth ar gael ar unrhyw adeg – nid o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7.  Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, byddwn ni yno.

Supervising social worker and foster carer

gweithiwr cymdeithasol maethu ymroddedig

Bydd gennych weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sydd wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.

Mae Maethu Cymru Caerffili yn rhan o’r Awdurdod Lleol, yn gweithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu mynediad at wybodaeth am y plentyn ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill a chysylltiadau gwaith agosach â gweithwyr cymdeithasol plant.

Fostering Network Foster Walk Cardiff

cymorth cyfoedion

Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill.  I roi profiadau newydd, cyfeillgarwch newydd, ac atgofion newydd i chi. Bydd gofalwyr maeth arloesol profiadol yn eich cefnogi chi.

Man and teenager making pizza in a kitchen

cyfleoedd dysgu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.

Adult and young girl baking together in kitchen

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cymorth arall a gwobrau

Icon of tickets/passes

Tocyn hamdden

Cerdyn SMART, sy’n cynnig amrywiaeth o arbedion gan gynnwys mynediad gostyngol i atyniadau a lleoliadau lleol, a nofio am ddim i blant sy’n derbyn gofal.

Pas CADW sy’n rhoi mynediad am ddim i bob castell yng Nghymru.

Discussion icon

Fy Nhîm Cymorth

Arweiniad, cymorth a hyfforddiant gan Fy Nhîm Cymorth

Social worker icon

Men Who Care

Grŵp i ofalwyr gwrywaidd sy’n cynnig cymorth gan gyfoedion ac sy’n rhan o’r pecyn cymorth ychwanegol

Coffee mug icon

Cymuned faethu

Mae gennym ni hefyd gymuned anhygoel o ofalwyr maeth sydd i gyd yn cadw mewn cysylltiad yn dda. Maen nhw’n cwrdd ledled Caerffili a dros y cyfryngau cymdeithasol, ac maen nhw bob amser yn hapus i rannu profiadau a doethineb.

digwyddiad gwybodaeth maethu

Ymunwch â Maethu Cymru Caerffili yn un o’u digwyddiadau sydd ar ddod i gael rhagor o wybodaeth am faethu.

6 Mawrth 2026, 11:00am – 1:00pm

Ty Bedwelty, Stryd Morgan, Tredegar, NP22 3XN

Meddwl am faethu? Ewch i dîm Rhieni a Phlant Maethu Cymru Gwent @Ty Bedwelty i…

gwybodaeth bellach

20 Mawrth 2026, 1:00pm – 3:00pm

Ty Bedwelty, Stryd Morgan, Tredegar, NP22 3XN

Meddwl am faethu? Ewch i dîm Rhieni a Phlant Maethu Cymru Gwent @Ty Bedwelty i…

gwybodaeth bellach
See all events