blog

rhesymau mike a mel dros symud i faethu cymru caerffili

Cynorthwyo plant yn lleol wrth i’r broses faethu newid yng Nghymru

Ni wnaeth Mike a Mel trosglwyddo o asiantaeth faethu annibynnol i Maethu Cymru Caerffili oherwydd profiad gwael.

Mewn gwirionedd, maen nhw’n dweud y gwrthwyneb. “Doedd dim byd o’i le ar yr asiantaeth. Roedd gennym ni berthynas dda gyda nhw.”

Ond, dros amser, doedd rhywbeth ddim yn hollol iawn.

Mae gan Mike a Mel gartref mawr â chwe ystafell wely. Maen nhw’n ofalwyr maeth profiadol, yn enwedig gyda phobl ifanc yn eu harddegau, a mater o drefn yw’r egni sy’n dod gydag aelwyd brysur. Ond, wrth faethu gyda’r asiantaeth, roedd ganddyn nhw ystafelloedd gwag. “Roedd gennym ni ystafelloedd gwely sbâr ac roedd yr asiantaeth faethu annibynnol yn cael trafferth ein helpu ni i ddarparu gofal i ragor o blant.”

Fel cwpl sy’n maethu oherwydd eu bod nhw am helpu pobl ifanc, roedd hynny’n anodd ei ddeall. “Os oes yna blant sydd angen cartrefi ac mae gennym ni’r ystafelloedd, pam nad yw’n digwydd?”

Yn y pen draw, fe wnaeth y cwestiwn hwnnw achosi iddyn nhw ystyried rhywbeth newydd, sef trosglwyddo i’w hawdurdod lleol.

Mae maethu yng Nghymru yn newid

Ledled Cymru, mae’r broses faethu yn esblygu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal. Y nod yw y bydd gwasanaethau i blant, gan gynnwys maethu, yn gweithredu ar sail nid-er-elw. Yn syml, mae’n golygu y bydd arian sy’n cael ei wario ar faethu yn aros mewn gwasanaethau sy’n cynorthwyo plant a gofalwyr, yn hytrach na chael ei ddosbarthu i gyfranddalwyr.

Mae Maethu Cymru yn dod â phob un o’r 22 awdurdod lleol at ei gilydd o dan un rhwydwaith cenedlaethol, gan gadw gwasanaethau maethu mewn cymunedau lleol.

I ofalwyr fel Mike a Mel, fe wnaeth y newid hwnnw achosi iddyn nhw feddwl mwy am ble hoffen nhw fod o fewn y system. Nid oherwydd bod yr asiantaeth wedi gwneud unrhyw beth o’i le, ond oherwydd hoffen nhw fod yn agosach at ble mae penderfyniadau am blant yn cael eu gwneud.

Transfer to us

Defnyddio eu cartref yn well

Un o’r ffactorau mwyaf i Mike a Mel, yn y bôn, oedd capasiti. Roedden nhw’n gwybod bod awdurdodau lleol ledled Cymru dan bwysau i ddod o hyd i gartrefi i blant, yn enwedig pobl ifanc yn eu harddegau. Ac roedd ganddyn nhw ystafelloedd.

“Roedden ni’n gwybod y byddai’r Awdurdod Lleol yn gallu ddefnyddio ein capasiti ychwanegol yn well.”

Ar un adeg, roedd hyd yn oed cynnig taliad i gynnal lle gwag. “Fe wnaeth yr asiantaeth faethu annibynnol hyd yn oed cynnig ein talu ni am leoliad plentyn ychwanegol heb roi plentyn i ni.”

Yn eu barn nhw, doedd hynny ddim yn iawn.

Maen nhw’n credu nid yw maethu yn ymwneud â chynnal lle ar bapur. Mae’n ymwneud â phlentyn yn byw yn yr ystafell honno, yn rhan o’r aelwyd. Trwy drosglwyddo i Maethu Cymru Caerffili, roedden nhw’n teimlo y gallen nhw gynnig eu cartref lle roedd ei angen fwyaf.

Llai o haenau, cyfathrebu cliriach

Ar ôl trosglwyddo, fe wnaethon nhw hefyd sylwi ar sut mae pethau’n gweithio’n wahanol o ddydd i ddydd. Wrth faethu gydag awdurdod lleol, mae pawb sy’n ymwneud â gofal plentyn yn gweithio yn yr un sefydliad. Mae gweithwyr cymdeithasol goruchwylio, gweithwyr cymdeithasol plant a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn rhan o’r un system.

“Mae’r Awdurdod Lleol yn llawer mwy hyblyg… mae pethau’n fwy syml.”

Mae Mike a Mel yn dweud y gall hyn wneud datrys problemau yn haws.

“Pan fydd angen i ni drafod problemau gyda’r plant, mae’n ymddangos bod cyfarfodydd i ddatrys y materion hyn yn digwydd yn gyflymach nag o’r blaen gan fod llai o asiantaethau dan sylw.” I ofalwyr sy’n cynorthwyo sawl person ifanc yn eu harddegau, mae’r eglurder hwnnw’n bwysig.

Mae’n golygu llai o fynd yn ôl ac ymlaen a mwy o ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar bobl ifanc.

Teimlo eu bod nhw’n cael eu cydnabod fel gofalwyr profiadol

Gall trosglwyddo deimlo’n frawychus i ofalwyr maeth. Un o’r pryderon mwyaf cyffredin yw a fydd yn rhaid i chi ddechrau eto neu brofi eich hun eto.

Nid dyna oedd profiad Mike a Mel.

“Roedd yr Awdurdod Lleol yn ymwybodol o’n profiad, yn bennaf gyda phobl ifanc yn eu harddegau, a’n gallu i reoli aelwyd fawr.”

Fe wnaeth y gweithiwr cymdeithasol goruchwylio feithrin perthynas waith gref gyda nhw yn gyflym, gan ddeall realiti bywyd pob dydd yn eu cartref. Maen nhw hefyd yn teimlo bod eu llais yn bwysig wrth wneud penderfyniadau.

“Rydyn ni’n cael gwybod yn gyson am y gwaith da rydyn ni’n ei wneud ac mae ein barn yn cyfrannu at wneud penderfyniadau am ofal ac anghenion y plant.”

I ofalwyr profiadol, mae’r ymdeimlad hwnnw o ymddiriedaeth yn bwysig.

Penderfyniad ymarferol yn ogystal ag un ariannol

Mae arian yn aml yn rhan o’r sgwrs pan fydd gofalwyr maeth yn ystyried trosglwyddo.

Yn achos Mike a Mel, fe wnaeth yr Awdurdod Lleol gynnig taliadau cyfatebol ar gyfer y plant a oedd eisoes yn byw gyda nhw i leihau’r effaith uniongyrchol. Ond roedd eu penderfyniad nhw’n seiliedig ar ddefnyddio eu cartref yn well, yn hytrach na’r arian.

Gyda chwe ystafell wely a phrofiad o gynorthwyo pobl ifanc yn eu harddegau, roedden nhw am wybod y gallai eu cartref helpu plant sydd ei angen. “Gan fod gennym ni chwe ystafell wely, rydyn ni’n gwybod y bydd yr Awdurdod Lleol yn defnyddio’r ystafelloedd yn well ac mae hynny’n golygu mwy o ddiogelwch.” Yn eu barn nhw, mae’n ymwneud â’r un egwyddor a wnaeth iddyn nhw ystyried symud yn y lle cyntaf.

Os oes angen cartref ar blant, ac mae ganddyn nhw le, maen nhw eisiau bod yn rhan o’r system sy’n cysylltu’r ddau.

Ydych chi’n meddwl am drosglwyddo?

I rai gofalwyr maeth, mae symud i faethu nid-er-elw yng Nghymru yn annog sgyrsiau newydd. Nid oherwydd bod eu trefniadau presennol yn anghywir, ond oherwydd bod y system o’u cwmpas nhw yn newid.

Mae profiad Mike a Mel yn dangos nad yw trosglwyddo yn golygu dechrau eto. Rydyn ni’n cydnabod eich profiad, ac mae’r broses wedi’i chynllunio i fod mor llyfn â phosibl.

Weithiau, nid yw’r penderfyniad yn ymwneud â rhywbeth nad yw’n gweithio.

Weithiau, mae’n ymwneud â gofyn sut gall eich cartref, eich sgiliau a’ch profiad wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Os ydych chi’n maethu gydag asiantaeth annibynnol ac yn ystyried trosglwyddo, gall Maethu Cymru Caerffili siarad â chi yn gyfrinachol. Os ydych chi wedi dod o hyd i’r blog hwn ac yn byw y tu allan i Fwrdeistref Sirol Caerffili, cysylltwch â thîm eich awdurdod lleol drwy wefan genedlaethol Maethu Cymru yma.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch